Skip to main content

Cronfa Gwyrddu'r Sgrîn

Darparu atebion i heriau cynaliadwyedd yn y diwydiant sgrin. 

Media Cymru gyda Ffilm Cymru

Beth yw Cronfa Gwyrddu'r Sgrîn?

Bydd y prosiect hwn yn ehangu ar ymdrechion cynaliadwyedd presennol Ffilm Cymru fel rhan o’u rhaglen gyffredinol Cymru Werdd. Trwy gyllid arloesedd, bydd y prosiect yn darparu atebion i heriau gwyrdd yn y diwydiant sgrin ac yn cefnogi’r gwaith o ehangu cynhyrchion, gwasanaethau a phrosesau cynaliadwy. 

Bydd Cymru Werdd yn creu ymrwymiad i newid cadarnhaol trwy godi ymwybyddiaeth amgylcheddol a gwella gwybodaeth a dealltwriaeth o weithio sgrin cynaliadwy.

Mwy

Cronfa Gwyrddu’r Sgrîn

Tachwedd 2024: Cwmniau Ffilm a Theledu o Cymru yn cael cyllid i ddatblygu syniadau newydd ar gyfer gwneud y sector sgrin yn fwy gwyrdd

Mae Ffilm Cymru Wales a Media Cymru wedi buddsoddi £307,675 i ddatblygu saith prosiect arloesol i geisio gwneud sector sgrin Cymru yn fwy gwyrdd.

Rhagor o wybodaeth
Cronfa Gwyrddu’r Sgrîn

Mai 2024: Gwyrddio’r sgrin: lansio cronfa datblygu

Mae Media Cymru a Ffilm Cymru Wales yn lansio Cronfa Datblygu newydd gyda’r nod o droi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ganolbwynt ar gyfer cynhyrchu cyfryngau cynaliadwy.

Rhagor o wybodaeth
Film shoot on a Welsh mountainside for Beddgelert, dir. Medeni Griffiths, Ffilm Cymru Wales.

Ionawr 2024: Peilota llwybr at ddyfodol cynaliadwy gyda Bargen Newydd y Sgrin Cymru

Amlinellodd BAFTA albert yr argymhellion allweddol yn adroddiad Bargen Newydd y Sgrin (SND): Cynllun Trawsnewid Cymru, sy’n gosod llwybr at ddyfodol cynaliadwy ar gyfer y diwydiannau ffilm a theledu safon uwch ochr yn ochr â’i ail Uwchgynhadledd Gynhyrchu flynyddol, a oedd wedi ei chynnal yng Nghaerdydd.

Rhagor o wybodaeth
Cronfa Gwyrddu’r Sgrîn

Medi 2023: Lansio Cystadleuaeth Cyllid Gwyrddu’r Sgrin

Mae Cronfa Gwyrddu’r Sgrin yn ariannu’r gwaith o ddatblygu cynnyrch, gwasanaethau a phrosesau, gan wella cynaliadwyedd amgylcheddol y diwydiant sgrin ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Rhagor o wybodaeth